United Kingdom

Fferm Solar Arfaethedig ar Ystâd Plas Power, Ffordd Rhuthun, Wrecsam, LL11 3BS

Key numbers

82,911 MWh

cyflenwir (oriau Megawat) yn flynyddol

22,222

yn cyfatebol i anghenion ynni o gartrefi

348

erw o dir

12,678

cyfateb i dynnu o geir oddi ar ein ffyrdd

53,128

cerbydau trydan sy’n cael eu pweru’n flynyddol

Current status

Mae Lightsource bp yn gweithio ar argymhelliad ar gyfer fferm solar yn Wrecsam ar dir Ystâd Plas Power, ac yn cyflwyno’r cynlluniau i’r gymuned leol. Fe fydd Lightsource bp yn ariannu datblygiad Fferm Solar Plas Pŵer, fydd yn cael ei gysylltu gyda’r rhwydwaith trydan lleol yn is-orsaf Legacy.

Mae’r argymhelliad yn golygu y bydd Lightsource bp yn ariannu datblygiad o osod paneli solar gydag capasiti allbwn pŵer o 80MW (Megawat), trwy ynni adnewyddadwy i bweru 22,222 o gartrefi yflwyddyn. Bydd yr ynni solar a gynhyrchir yn arbed 22,991 o dunelli o allyriadau carbon yn flynyddol. Mae gyfwerth â thynnu hyd at 12,678 o geir oddi ar ein ffyrdd neu digon o drydan glan i bweru 53,128 o geir trydan yn flynyddol.

Mae Lightsource bp yng nghamau cynnar iawn y prosiect hwn, ac mae’n rhannu ei gynlluniau â thrigolion lleol a chymunedau cyfagos er mwyn cael gwybodaeth ac adborth ganddynt am y tir dan sylw. Yn dilyn y digwyddiad hwn, byddwn yn cwblhau amrywiaeth o asesiadau manwl cyn cynnal yr ymgynghoriad statudol cyn cyflwyno.

Mae diogelwch yn un o’n prif flaenoriaethau, ac er mwyn cadw at safonau’r ymgysylltiad cymunedol a osodwyd gennym fel cwmni yn y sefyllfa byd eang presennol, byddwn nawr yn cynnal digwyddiad rhithiol yn hytrach na chyfarfod wyneb yn wyneb gyda’r gymuned. a ddigwyddodd ar 21 Hydref 2021, ar ffurf cyflwyniad fideo, a ellir ei wylio isod, a sesiwn holi ac ateb byw. Roeddem wedi rhyddhau datganiad i’r wasg i’r papur lleol, yn ogystal â phostio taflen wybodaeth i breswylwyr cyfagos.

Dylech gyflwyno unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r prosiect trwy gwblhau’r ffurflen ar waelod y dudalen.

Mae croeso i chi edrych ar daflen wybodaeth Plas Pŵer isod.

Gwybodaeth ac adnoddau

Cliciwch y dolenni isod er mwyn darganfod mwy am ein cynlluniau ar gyfer prosiect ynni solar Plas Pŵer:

Llwybr Traffig Adeiladu
Golygfannau

Ceir gwybodaeth ychwanegol am ffermydd solar Lightsource bp isod:

Mynd i’r afael â Newid Hinsawdd (Cymraeg) (Saesneg)
Cydrannau Fferm Solar (Cymraeg) (Saesneg)
Adeiladwaith (Cymraeg) (Saesneg)
Proses Gynllunio ac Ymgysylltiad Cymunedol (Cymraeg) (Saesneg)
Solar ac Amaethyddiaeth (Cymraeg) (Saesneg)
Solar a Bioamrywiaeth (Cymraeg) (Saesneg)
Ynni Solar yn y DU (Cymraeg) (Saesneg)
Cefnogi Cymunedau Lleol (Cymraeg) (Saesneg)
Pam Ynni Solar? (Cymraeg) (Saesneg)

 

Rydym wedi ymrwymo i ymgysylltu a bod yn agored gyda’r gymuned yn ystod y broses hon. Yng ngoleuni’r sefyllfa anarferol, rydym yn rhoi cyfle i unrhyw un fyddai’n dymuno trafod y prosiect yn unigol i gwrdd â’r tîm Cynllunio Amgylcheddol, un ai dros y ffôn, neu drwy fideo-gynadledda. Os ydych yn dymuno cysylltu, yna cwblhewch y ffurflen isod.

Ein Hargymhelliad

Rydym yn parhau i fod yn nghyfnod cynnar y prosiect, a bydd ein cynlluniau’n siŵr o esblygu ar sail y mewnbwn lleol a chanlyniadau ein hasesiadau ecolegol, tirwedd a threftadaeth, ynghyd ag ystyriaethau eraill. Os oes gennych sylwadau ar ein cynlluniau cyfredol, byddem yn ddiolchgar pe baech yn cysylltu â ni. Byddem hefyd yn dymuno clywed gan fusnesau a chwmnïau lleol fyddai â diddordeb mewn darparu gwasanaethau fel rhan o weithrediad a’r gwaith adeiladu ar y safle.

Cyflwyniad Gwybodaeth Gymunedol Fferm Solar Ystâd Plas Pŵer (Cymraeg)

Cyflwyniad Gwybodaeth, yn Cymraeg o’r argymhelliad ar gyfer Fferm Solar Ystâd Plas Pŵer, a recordiwyd ar gyfer y digwyddiad rhithiol a gynhaliwyd ar 21 Hydref 2021.

Get in touch

We are always on hand to assist with any enquiries. You can contact us via email or phone our customer services team.

info@lightsourcebp.com 03332000755

*Indicates required field