New Zealand

Prosiect Storio Ynni Pentir

Y PROSIECT MEWN RHIFAU

57MW

/228MWh battery

96

battery containers (or equivalent)

6.5

acres of land (approx)

40-year

operational life

STATWS PRESENNOL

Dewis safle

Asesiadau rhagarweiniol, cynllunio'r safle ac ymgysylltu cymunedol

Cais cynllunio

Rhyddhau amodau cynllunio

Adeiladu

Gweithrediad

Datgomisiynu

Mae Lightsource bp yn gweithio ar gynnig i osod batris ym Mhentir, Bangor, Gwynedd. Byddwn yn ariannu ac yn gweithredu safle batri 57MW/228MWh (4 awr o hyd) wedi’i gysylltu â’r rhwydwaith trydan lleol. Bydd y batri yn hwyluso integreiddio ynni adnewyddadwy yn y grid, gan helpu i gefnogi trydan cost isel a gwell dibynadwyedd y grid trydan.

Rydyn ni wedi dewis y safle hwn ar ôl ystyriaeth ofalus, a bellach rydyn ni’n cynnal ystod eang o asesiadau amgylcheddol i helpu i lunio ein cynlluniau. Mae’r rhain yn cynnwys tirwedd ac elfennau gweledol, treftadaeth, ecoleg, sŵn, llifogydd a rhagor.

Rhan allweddol o ddatblygu cynlluniau ar gyfer gosod batris yw ymgysylltu â chymunedau lleol, felly rydym yn cynnal digwyddiad gwybodaeth ar 21ed Fai yn Neuadd Bentref Rhiwlas, Rhiwlas, Bangor, Gwynedd LL57 4GA, rhwng 3pm a 6pm i arddangos ein cynlluniau a chasglu adborth. Rydym wedi anfon taflen wybodaeth i’r gymuned leol, yn ogystal â datganiad i’r wasg i bapurau newydd lleol, yn gwahodd partïon â diddordeb i ymuno â ni yn y digwyddiad. Bydd aelodau o dîm Lightsource bp wrth law i ateb unrhyw gwestiynau am y cynnig.

Adnoddau a dogfennau

Gweler isod am ragor o wybodaeth am ein cynlluniau ar gyfer Prosiect Storio Ynni Pentir:

Lawrlwytho’r Daflen Wybodaeth

Cliciwch ar y dolenni isod i ddysgu rhagor am brosiectau storio ynni Lightsource bp.

Rydym wedi ymrwymo i aros yn agored ac ymgysylltu â’r gymuned yn ystod y broses hon. Fel arall, rydym yn cynnig cyfle i unrhyw un a hoffai drafod y prosiect gael trafodaeth fesul un gyda’n tîm Cynllunio Amgylcheddol, naill ai dros y ffôn neu drwy fideo-gynadledda. Defnyddiwch y ffurflen isod i gysylltu os hoffech chi drefnu hyn.

Cysylltu â ni

Os hoffech siarad â ni am Brosiect Storio Ynni Pentir, llenwch y ffurflen isod a chliciwch ar “cyflwyno”.

Ffurflen gyswllt