FRANCE

Prosiect Storio Solar ac Ynni Plas Power

Y PROSIECT MEWN RHIFAU

57MWac

o solar a storio (Megawat eiledol)

Pweru 22,700

o gartrefi bob blwyddyn (cyfwerth)

136

hectar o dir

Arbed 15,800

tunnell o allyriadau carbon

Tynnu 10,800

o geir oddi ar y ffordd y flwyddyn (cyfwerth)

Diweddariad – Ebrill 2026

Ym mis Mehefin 2024, cyflwynodd Lightsource bp Brosiect Storio Solar ac Ynni Plas Power i Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW) fel Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol (DNS). Penderfynir ar brosiectau a ddosberthir fel DNS drwy broses genedlaethol lle mae PEDW yn archwilio’r cais ac yn rhoi argymhelliad i Weinidogion Cymru, sydd wedyn yn gwneud y penderfyniad ar ganiatâd cynllunio.

Rhoddwyd caniatâd cynllunio gan Lywodraeth Cymru ym mis Chwefror 2026.

Yn dilyn Diwygiadau Cysylltu NESO, mae’r prosiect wedi sicrhau dyddiad cysylltu ar gyfer yr elfen ffotofoltäig (PV) cyn 2030 ac mae bellach yn aros am gadarnhad ar y dyddiad terfynol. Unwaith y bydd hyn wedi’i gadarnhau, cyhoeddir yr amserlenni adeiladu.

Rydym yn ddiolchgar am yr ymgysylltiad a’r adborth a gawsom ar ein cynigion dros y pum mlynedd diwethaf. Mae’r cymunedau o amgylch y safle wedi chwarae rhan bwysig wrth lunio ein prosiect. Wrth symud ymlaen, byddwn yn parhau i ymgysylltu â’r gymuned ar y rhaglen ar gyfer adeiladu a gweithredu, ac ar y gronfa budd cymunedol arfaethedig.

Diweddariad – Chwefror 2025

Ym mis Mehefin 2024, cyflwynodd Lightsource bp gais Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol (DNS) ar gyfer Prosiect Solar a Storio Ynni Plas Power i Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW).

Mae’r Prosiect arfaethedig wedi’i ddosbarthu fel Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol Mae hyn yn golygu y bydd Lightsource bp yn gwneud cais i Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW), a fydd yn gwneud argymhelliad i Weinidogion Cymru ynghylch rhoi caniatâd cynllunio ai peidio.

Dilyswyd y cais gan PEDW ym mis Chwefror 2025 ac mae bellach ar gael i’w weld ar wefan Llywodraeth Cymru – porth ‘Cynllunio gwaith achos’ trwy chwilio’r cyfeirnod ‘DNS/3253253 – Fferm Solar Stad Plas Power’.

Ers ein hymgynghoriad statudol yng ngwanwyn 2024, fe wnaethom ystyried eich adborth a gwneud y newidiadau a ganlyn:

  • Plannu coed a gwrychoedd ychwanegol i’r gogledd o’r safle i ddarparu lefel uwch o sgrîn i eiddo ar Tan Llan;
  • Mwy o glustogfeydd ar gyfer coetiroedd hynafol a choed hynafol gerllaw ac o fewn y safle; a

Rydym yn ddiolchgar am yr ymgysylltiad a’r adborth a gawsom ar ein cynigion dros y tair blynedd ddiwethaf. Mae’r cymunedau o amgylch y safle wedi chwarae rhan bwysig wrth lunio ein prosiect.

Byddwn yn parhau i ymgysylltu â’r gymuned ynghylch ein cronfa budd cymunedol pe byddai caniatâd yn cael ei roi, ac unwaith y bydd y prosiect yn weithredol.

Flock of sheep grazing among rows of solar panels at a Lightsource bp solar project in the UK, part of their UK Projects portfolio, under a partly cloudy sky with trees on the horizon.
Statws presennol

Dewis safle

Asesiadau rhagarweiniol, cynllunio'r safle ac ymgysylltu cymunedol

Cais cynllunio

Rhyddhau amodau cynllunio

Adeiladu

Gweithrediad

Datgomisiynu

A blue tractor mows grass between rows of solar panels at a Lightsource bp solar project in the UK, part of their UK Projects portfolio, set against rolling green hills under a cloudy sky.

Rhagor o wybodaeth

Am y gyfres lawn o ddogfennau ymgynghori am Prosiect Storio Solar ac Ynni Plas Power, gweler yr adran Dogfennau ymgynghori isod.

Map rhyngweithiol o’r safle

Rydym ar hyn o bryd yn gweithio ar gyfieithu’r isod a bydd fersiwn Gymraeg ar gael yn fuan.

Buddsoddi mewn cymunedau lleol

Cefnogi cymunedau lleol

Rydym yn cefnogi’r cymunedau lleol o amgylch ein prosiectau solar a’n nod yw creu effaith gadarnhaol ar gymdeithas a’r amgylchedd sy’n mynd y tu hwnt i gynhyrchu ynni adnewyddadwy.

Buddion i’r Gymuned

Os bydd y cais cynnlunio DNS yn cael ei gymeradwyo, byddwn yn darparu cronfa o £1,000 fesul MW capasiti fydd yn cael ei ddosbarthu rhwng cynghorau cymuned Coed-poeth ac Esclus a bydd £400,000+ ychwanegol yn cael ei fuddsoddi mewn prosiectau a chynlluniau lleol er budd y gymuned.

Yn dilyn adborth o ddigwyddiadau ymgynghori blaenorol, rydym yn archwilio’r cyfleoedd posibl a ganlyn:

  • cefnogi cynlluniau gwella i Lwybr Dyffryn Clywedog, ei asedau treftadaeth ac amgylchedd naturiol (gan gynnwys Coed Plas Power)
  • sefydlu cronfa budd cymunedol i ddarparu cyllid grant ar gyfer prosiectau cymunedol ac amgylcheddol
  • cefnogi clybiau chwaraeon lleol.

Os oes gennych unrhyw syniadau eraill, rhowch wybod i ni.

Cofrestrwch i gael diweddariadau

Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i ymgysylltu agored a thryloyw â’r gymuned.

Os hoffech gael eich cynnwys yn y rhestr bostio ar gyfer diweddariadau ,

Mae ein cyfathrebiadau prosiect ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 5pm:

 

 

Dogfennau ymgynghori