Prosiect Solar Plas Power
57MWac
(Megawat eiledol)
Pweru 22,726
o gartrefi bob blwyddyn (cyfwerth)
~140
hectar o dir
Arbed 15,821
tunnell o allyriadau carbon
Tynnu 10,881
o geir oddi ar y ffordd y flwyddyn (cyfwerth)
Ymgynghoriad Cyhoeddus yn Fyw
Y dyddiad cau ar gyfer sylwadau yw: dydd Llun 27 Gorffennaf 2023.

Dewis safle
Asesiadau rhagarweiniol, cynllunio'r safle ac ymgysylltu cymunedol
Cais cynllunio
Rhyddhau amodau cynllunio
Adeiladu
Gweithrediad
Datgomisiynu
Gwybodaeth am Brosiect Solar Plas Power
Bydd Prosiect Solar Plas Power yn darparu ffynhonnell o ynni adnewyddadwy, gan helpu i leihau allyriadau carbon a chyfrannu at nodau sero net Cymru, a chyfrannu at uchelgais y DU o gynnydd pum gwaith yn yr ynni solar a gynhyrchir, hyd at 70GW erbyn 2035, fel y nodir yn Strategaeth Diogelwch Ynni a Sero Net y DU.
Amcangyfrifir y gallai’r prosiect solar gynhyrchu hyd at 57MWac o drydan, sydd gyfwerth â darparu digon o bŵer i ddiwallu anghenion trydan blynyddol oddeutu 27,726 o gartrefi, gan arbed 15,821 o dunelli o garbon.
Mae’r safle, sydd oddeutu140 hectar, wedi’i leoli yn union i’r dwyrain o Goedpoeth a 3.4km i’r gorllewin o Wrecsam. Yr aneddiadau agosaf yw Coedpoeth, Brychdyn Newydd, Wrecsam, Rhostyllen a Talwrn. Hen bwll glo brig yw’r safle, ac ar hyn o bryd mae’n laswelltir a ddefnyddir yn bennaf ar gyfer pori.
Mae’r safle’n cynnwys nifer o gaeau amaethyddol, a ddefnyddir yn bennaf ar gyfer tir pori, wedi’u rhwymo gan gyfuniad o goetir aeddfed, coed, gwrychoedd, ffensys, traciau amaethyddol a ffyrdd.
Mae ein cynnig yn cynnwys cynlluniau i greu glaswelltir dôl y gall ddefaid bori’n ysgafn arno, felly bydd y tir o dan y prosiect solar yn cynnal diben amaethyddol. Ochr yn ochr â hyn mae cyfle hefyd i wella cynefinoedd presennol a chreu cynefinoedd newydd er budd bywyd gwyllt lleol, a sicrhau enillion net o ran bioamrywiaeth.
Yn dilyn yr ymgysylltu cychwynnol yn 2021, rydym wedi diweddaru ein cynigion ac rydym nawr yn rhannu’r cynlluniau diweddaraf â’r gymuned.
Rydym wedi ymrwymo i gefnogi’r cymunedau lleol o amgylch ein prosiectau solar, i greu effaith gadarnhaol ar gymdeithas a’r amgylchedd sy’n mynd y tu hwnt i gynhyrchu ynni adnewyddadwy.
Mae croeso i chi gymryd cipolwg ar gylchlythyr Plas Power isod.

Ymgynghoriad
Mae Lightsource bp wedi ymrwymo i weithio’n agos gyda chymunedau lleol mewn perthynas â Phrosiect Solar Plas Power i sicrhau bod y prosiect o fudd i’r gymuned leol – nid yn unig drwy gynhyrchu ynni diogel, glân a fforddiadwy , ond drwy wella’r ecosystem a’r economi leol hefyd. Rydym yn adeiladu ein ffermydd solar gyda’r bwriad o gryfhau economïau gwledig, hyrwyddo addysg solar, meithrin cynaladwyedd amgylcheddol, a chreu partneriaethau.
Ymgynghoriad Cymunedol ar gynigion sy’n dod i’r amlwg
Rydym nawr yn cynnal cam nesaf yr ymgysylltu i roi cyfle i bobl leol ddysgu rhagor a thrafod y cynigion diweddaraf gyda thîm y prosiect.
Y dyddiad cau ar gyfer sylwadau yw dydd Llun, 17 Gorffennaf 2023.
Gweminar
Cynhaliom weminar rithwir i roi trosolwg o’r cynigion ac i ymateb i’ch ymholiadau ddydd Mawrth, 20 Mehefin 2023, rhwng 6pm a 7pm.
Digwyddiadau galw heibio
I ddysgu rhagor a thrafod y cynigion gydag aelodau o dîm y prosiect, dewch i’n digwyddiadau galw heibio:
- Ddydd Iau 20 Gorffennaf – 2.30pm i 5:30pm yn Neuadd y Plwyf Rhostyllen, Vicarage Hill, Rhostyllen, LL14 4AR
Fe wnaethom gynnal y digwyddiadau galw heibio canlynol:
- Dydd Mawrth, 27 Mehefin 2023, o 12pm i 5pm ym Mhlas Pentwyn, Ffordd y Castell, Coedpoeth, LL11 3NU
- Dydd Mawrth, 27 Mehefin 2023 o 6pm i 8pm yng Nghlwb Chwaraeon a Chymdeithasol Brymbo, Brymbo
- Dydd Mercher, 28 Mehefin 2023, o 09am i 1pm yng Nghlwb Chwaraeon a Chymdeithasol Brymbo, Brymbo
Gwybodaeth am yr arddangosfa
I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, edrychwch ar:
Cywiriad
Mae Taflen Wybodaeth Prosiect Solar Plas Power Mehefin 2023 yn cyfeirio’n anghywir at is-orsaf Legacy fel un sydd wedi’i lleoli tua 600m i’r de-orllewin o’r safle. Cywirir hyn i tua 1.3km o ffin fwyaf deheuol y safle.
Dweud eich dweud
Rydym yn eich gwahodd i roi adborth ar ein cynigion drafft.
Ffurflen adborth: Rhowch adborth i ni drwy lenwi’ch ffurflen adborth erbyn dydd Llun 17 Gorffennaf 2023.
E-bost: E-bostiwch eich sylwadau i plaspowersolar@lightsourcebp.com
Post: Freepost GRASSHOPPER CONSULT (nid oes angen stamp na chyfeiriad arall)
Ffoniwch: Rydyn ni yma i wrando ar eich barn. Gallwch siarad ag aelod o’r tîm drwy ffonio 01978 800675
Rhowch eich manylion cyswllt os hoffech gael ymateb.
Bydd unrhyw wybodaeth bersonol y byddwch yn ei chynnwys yn y ffurflen hon yn cael ei thrin a’i defnyddio gan y derbynwyr canlynol (neu bydd ar gael iddynt) i gofnodi, dadansoddi ac adrodd ar yr adborth a gawn:
- Lightsource bp a’i bartneriaid
- Ymgynghorwyr sy’n gweithio ar y prosiect hwn
- Ein cynghorwyr cyfreithiol
- Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW), a fydd yn ystyried ein cais am ganiatâd i adeiladu Prosiect Solar Plas Power – bydd unrhyw fanylion a gyhoeddir yn rhan o’r broses hon yn ddienw)
- Gweinidogion Cymru, a fydd yn penderfynu ar y cais
Ni fydd eich manylion cyswllt yn cael eu rhestru ar y cais cynllunio.
Am ragor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio’ch data personol, ewch i: www.grasshoppercomms.co.uk/privacy-policy. Os hoffech i ni ddileu eich data, gallwch gysylltu â ni unrhyw bryd drwy e-bostio plaspowersolar@lightsourcebp.com neu ffonio 01978800675.