UNITED STATES

Maen Hir Solar and Energy Storage (Cymraeg)

Trosolwg o’r prosiect

Mae Lightsource bp yn datblygu cynigion ar gyfer prosiect solar a storio ynni o’r enw Prosiect Maen Hir, sydd wedi’i leoli ar dir yn Ynys Môn. Fe’i galwyd yn flaenorol yn Fferm Solar Môn, ac rydyn ni nawr yn ailgyflwyno’r prosiect gyda newidiadau i’r cynigion.

Bydd gan Prosiect Maen Hir gapasiti o dros 350 megawat (MW) o drydan glân ac adnewyddadwy. Mae’r cynigion yn cynnwys seilwaith ar gyfer cynhyrchu a storio ynni adnewyddadwy, cyflenwi’r trydan hwn i’r grid, ac ar gyfer mynedfeydd a’r compowndiau dros dro sydd eu hangen ar gyfer adeiladu. Yn bwysig, mae’r cynigion hefyd yn cael eu datblygu gyda’r potensial i alluogi rhagor o gyfleoedd fel cynllun solar cymunedol 5MW, cynigion seilwaith gwyrdd, a chyfleoedd hamdden newydd.

O’r cychwyn cyntaf, uchelgais ehangach Lightsource bp oedd i’r prosiect alluogi Hyb Ynni ar hen safle Shell a fyddai, yn ei dro, yn cefnogi datblygu economaidd a chreu swyddi. Gallai’r gwaith sydd ei angen i gyflwyno Hyb Logisteg Adeiladu, ac i ddatblygu’r System Storio Ynni Batri (BESS) a solar cymunedol, gynnwys buddsoddi mewn seilwaith a allai yn gyffredinol helpu i ddatgloi potensial y safle i gefnogi’r defnydd arfaethedig o ynni a chyflogaeth; gan helpu i alluogi Hyb Ynni. Mae hyn yn arwyddocaol o ystyried bod hen safle Shell yn segur a’r diffyg cyfleoedd datblygu sydd wedi’u cyflwyno hyd yma.

Bydd y prosiect yn rhan allweddol o Raglen Ynys Ynni Cyngor Sir Ynys Môn, sy’n ceisio gosod yr Ynys ar flaen y gad o ran ymchwil a datblygu, cynhyrchu a gwasanaethu ynni carbon isel, gyda’r bwriad o greu manteision economaidd, cymunedol ac amgylcheddol. Bydd yn cyfrannu at dargedau Llywodraeth Cymru i gyrraedd Sero Net erbyn 2050 a chael 70% o’r trydan a ddefnyddir o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2030, yn ogystal â thargedu ehangach y DU i gynyddu capasiti solar bum gwaith erbyn 2035.

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am y prosiect yn ein Cwestiynau Cyffredin

Ailgyflwyno’r prosiect

Rydym eisoes wedi rhannu ein huchelgais i gynhyrchu ynni adnewyddadwy o ynni solar yn y lleoliad hwn, ar ôl cyflwyno cynigion ar gyfer Solar Môn ar safleoedd tebyg yn 2021. Roedd hyn yn cynnwys ymgysylltu’n gynnar ar-lein â rhanddeiliaid lleol a gweminarau cymunedol a gynhaliwyd ym mis Mawrth 2021 o dan gyfyngiadau COVID-19.

Mae ein cynigion wedi esblygu ers hynny. Mae’r cynlluniau ar gyfer y prosiect newydd wedi cael eu mireinio a’u datblygu ymhellach. Rydym wedi ystyried sylwadau o’r ymgysylltu cychwynnol, gan dynnu peth o’r tir a oedd wedi cael ei gynnig yn flaenorol, ynghyd â nodi ardaloedd ychwanegol a allai fod yn addas ar gyfer solar drwy ymgysylltu â thirfeddianwyr ac arolygon amgylcheddol cychwynnol.

Gan gyfrif am y datblygiadau hyn, mae gan Brosiect Maen Hir nawr gapasiti cynhyrchu disgwyliedig o fwy na 350 megawat (MW), sy’n golygu ei fod yn cael ei ddosbarthu fel Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (NSIP). Mae hyn yn golygu, er mwyn cael caniatâd cynllunio, ei bod yn ofynnol i ni gyflwyno cais am Orchymyn Cydsyniad Datblygu (DCO) ar gyfer y datblygiad arfaethedig i’r Arolygiaeth Gynllunio (PINS). Mae PINS yn gweithredu ar ran Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Diogelwch Ynni a Sero Net (DESNZ). Bydd yn archwilio ein cynigion ac yna’n gwneud argymhelliad i’r Ysgrifennydd Gwladol ynghylch a ddylid rhoi caniatâd ar gyfer y datblygiad.  Mae ymgysylltu â rhanddeiliaid a chymunedau lleol yn rhan bwysig o’r broses hon.

Felly, gellir ystyried bod cynigion blaenorol ar gyfer Solar Môn yn cael eu disodli gan ein cynigion diweddaraf ar gyfer Prosiect Maen Hir.

Lleoliad y safle/prosiect

Mae Prosiect Maen Hir wedi’i leoli yng ngogledd yr Ynys, ac mae’n cynnwys tua 1,234 hectar (ha) o dir sydd â’r potensial i ddarparu ar gyfer datblygiad solar ffotofoltaig a seilwaith cysylltiedig gan gynnwys is-orsaf y prosiect a’r System Storio Ynni Batri (BESS). Diffinnir y safle fel un sy’n cynnwys tri pharsel cysylltiedig er mwyn gallu cyfeirio atynt yn rhwydd. Dyma’r parseli: ardal ger Rhosgoch a Bodewryd (a nodir fel ‘Gogledd Maen Hir’), i’r de-ddwyrain o Lannerch-y-medd (‘De Maen Hir’), ac o amgylch ymylon gogleddol a dwyreiniol Llyn Alaw (‘Canol Maen Hir’). Mae’r tir yn cynnwys caeau amaethyddol yn bennaf, ynghyd ag ardal o dir llwyd yng Ngogledd Maen Hir ger Rhosgoch a arferai fod yn ddepo olew Shell.

Mae’r rhan fwyaf o’r tir yn y safle yn cael ei ffermio ac yn laswelltir,  mae rhywfaint ohono’n cael ei dori fel porthiant a mae rhywfaint ohono’n cael ei bori. Bydd y tir o dan ac o amgylch yr araeau ffotofoltaig yn parhau i gael ei ddefnyddio fel glaswelltir ac yn cael ei reoli drwy drefn pori neu dorri, fel sy’n briodol, gan sicrhau nad oes unrhyw effeithiau sylweddol ar yr adnoddau pridd nac ar ansawdd y tir amaethyddol.

Mae’r uwchgynllun cysyniadol cychwynnol sy’n dangos lleoliad ardaloedd y safle isod.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yng Nghwestiynau Cyffredin y prosiect yma.

Y manteision

Pe bai’n cael ei adeiladu, byddai Prosiect Maen Hir yn…

Rhaglen Ynys Ynni Ynys Môn a helpu i gyrraedd targedau sero net cenedlaethol a rhanbarthol

Gwella bioamrywiaeth leol drwy greu cynefinoedd bywyd gwyllt newydd a photensial ar gyfer defnydd amaethyddol parhaus (e.e. pori da byw, plannu blodau gwyllt)

Darparu fforddiadwyedd ynni tymor hir gan mai solar yw’r ffordd rataf o gynhyrchu trydan

Gweithio gyda Grŵp Llandrillo Menai a Phrifysgol Bangor i greu cyfleoedd addysgol i drigolion a myfyrwyr

Creu swyddi newydd a buddsoddi mewn busnesau lleol, yn ogystal â chyfrannu at refeniw trethi lleol

Gwella adnoddau hamdden ac amwynder ar gyfer y gymuned leol ac ymwelwyr (e.e. llwybrau caniataol newydd, llwybrau beicio)

Darparu cynllun solar cymunedol 5MW

Helpu i sicrhau annibyniaeth a diogelwch ynni drwy wella dibynadwyedd ein cyflenwad pŵer cenedlaethol

Ein sefyllfa ar hyn o bryd/Y broses ddatblygu

Mae ein tîm yn gwneud gwaith asesu a fydd yn cyfrannu at Asesiad Effaith Amgylcheddol (AEA) cynhwysfawr i ganfod unrhyw effeithiau posibl yn sgil y prosiect, a fydd yn ei dro yn sail i ddyluniad Prosiect Maen Hir.

Fel rhan o’r gwaith hwn, rydym wedi cyflwyno ein Cais Cwmpasu Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol yn ddiweddar i’r Arolygiaeth Gynllunio (PINS) ar 9 Tachwedd 2023. Mae’r ddogfen hon yn nodi ein dull gweithredu arfaethedig ar gyfer yr AEA (gan gynnwys trosolwg o ba arolygon amgylcheddol rydym yn bwriadu eu cynnal, a sut byddwn yn asesu effeithiau posibl a mesurau lliniaru) a bydd PINS yn ymateb iddynt ar ffurf Barn Gwmpasu. Bydd PINS yn gofyn am adborth gan ymgyngoreion rhagnodedig (statudol) i hysbysu hyn.

Cliciwch yma i fynd i Gwestiynau Cyffredin ein prosiect i gael rhagor o wybodaeth am y broses ddatblygu ac amserlen ddangosol ar gyfer y prosiect.

Ymgynghori â Chymunedau

Ochr yn ochr â’r broses dechnegol hon, rydym wedi ymrwymo i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau’r cyhoedd a chynrychiolwyr cymunedol. Mae gwybodaeth a mewnbwn lleol yn bwysig i ni, ac rydym wedi ymrwymo i gyfathrebu agored a hygyrch.

Ein nod dros y gaeaf ac i mewn i’r Flwyddyn Newydd yw ailgyflwyno ein hunain a rhoi digon o amser i’r gymuned leol fod yn ymwybodol o’n cynigion diweddaraf ac yn cael cyfle i ofyn cwestiynau i ni ac i ni ateb unrhyw ymholiadau. Bydd hyn yn cynnwys cyfarfodydd wyneb yn wyneb a chyfarfodydd rhithwir gyda thîm y prosiect, yn ogystal â chyfleoedd i chi ofyn cwestiynau a rhoi adborth ac awgrymiadau. Bydd deunyddiau gwybodaeth ar gael i’r cyhoedd i helpu i egluro ein cynlluniau presennol ar gyfer Prosiect Maen Hir a’r hyn rydym yn chwilio’n benodol amdano yn eich adborth yn y cam ailgyflwyno hwn yn y broses gynllunio.

Rydym wedyn yn rhagweld cychwyn ymgynghoriad statudol ar ein cynigion yng Ngwanwyn 2024.

Mae Lightsource bp wedi ymrwymo i weithio gyda’r cymunedau rydyn ni’n buddsoddi ac yn datblygu ynddynt, ac mae hynny’n wir yng nghymuned unigryw Ynys Môn, ac yn enwedig y cymunedau gogledd Ynys Môn.

I gael rhagor o wybodaeth am y datblygwr, ewch i www.lightsourcebp.com.

Cofrestru i gael yr wybodaeth ddiweddaraf

Rydym wedi ymrwymo o hyd i ymgysylltu’n agored ac yn dryloyw â’r gymuned drwy gydol y broses hon.

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am Brosiect Maen Hir, gallwch gofrestru i gael diweddariadau am y prosiect yn uniongyrchol i’ch blwch derbyn. Cliciwch yma i gofrestru gyda ni a chael yr wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw newyddion a datblygiadau sy’n ymwneud â’r cynigion, gan gynnwys pan fydd rhagor o wybodaeth am y datblygiad arfaethedig a’r digwyddiadau cymunedol sydd ar y gweill ar gael.

Yn y cyfamser, rydym bob amser wrth law i gynorthwyo gydag unrhyw un o’ch ymholiadau ynghylch Prosiect Maen Hir, ac rydym wedi sefydlu llinellau cyfathrebu wedi’u neilltuo ar gyfer y prosiect er mwyn i chi allu cysylltu â ni, Llun-Gwener rhwng 9am a 5pm:

  • E-bost: maenhir@lightsourcebp.com
  • Rhadffôn: Cymraeg: 08081 756663 / Saesneg: 08081 756375
  • Rhadbost (am ddim; does dim angen stamp): FREEPOST MAEN HIR PROJECT

Cofrestru i gael yr wybodaeth ddiweddaraf

Defnyddiwch y ffurflen hon i gofrestru am ddiweddariadau, neu cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion isod.

maenhir@lightsourcebp.com Rhadffôn: Cymraeg: 08081 756663 / Saesneg: 08081 756375

*Indicates required field

Llyfrgell ddogfennau

Yma gallwch ddod o hyd i holl ddogfennaeth y prosiect, o’r mwyaf diweddar i’r lleiaf diweddar.

Pink flowers growing on a solar farm

Solar Môn

Er nad yw’n weithredol ar hyn o bryd, mae’r dudalen we bwrpasol ar gyfer Fferm Solar Môn ar gael i’r cyhoedd drwy’r ddolen hon.

I weld y wybodaeth ddiweddaraf am y cynigion, arhoswch ar y dudalen we hon i weld Disgrifiad o Brosiect Maen Hir a’r Cwestiynau Cyffredin a nodir uchod.