Afon Ddaw solar and energy storage project (Cymraeg)
249MWac
o gapasiti ynni solar wedi’i osod
249MW
Capasiti storfa ynni batri
123,212
o dai yn cael eu pweru bob blwyddyn (cyfatebol)
9,861
tunnell o CO2e yn cael eu hosgoi bob blwyddyn (amcangyfrif)
2,167
car oddi ar y ffordd bob blwyddyn (cyfatebol)
Dewis y safle
Asesiadau cychwynnol, dylunio’r safle ac ymgysylltu cynnar â’r gymuned
Cais cynllunio
Rhyddhau’r amodau cynllunio
Adeiladu
Gweithredu
Datgomisiynu
Mae Lightsource bp yn cynnig adeiladu, ariannu a gweithredu prosiect solar a storio ynni, a fyddai’n darparu hyd at 249 MW o ynni adnewyddadwy, neu ddigon o ynni i bweru tua 123,000 o gartrefi bob blwyddyn.
Byddai’r prosiect yn cynnwys hyd at 249MW o storfa ynni batri, a fydd yn storio ynni a gynhyrchir pan fydd y galw’n isel a gellir ei ryddhau pan fydd y galw’n uwch, gan helpu i ddarparu mwy o wydnwch i’r rhwydwaith trydan lleol. Bydd y prosiect yn cysylltu â’r Grid Cenedlaethol mewn estyniad arfaethedig i Is-orsaf Aberddawan trwy gebl tanddaearol.
Yn ogystal â darparu ynni adnewyddadwy, bydd ein prosiect yn canolbwyntio ar wella bioamrywiaeth ar y safle a darparu buddion lleol fel cronfa gymunedol a rhanberchnogaeth.
Mae’r prosiect arfaethedig wedi’i leoli ar dir rhwng Cyffordd 34 yr M4 a Sain Tathan ym Mro Morgannwg.

Map dangosol o leoliad y prosiect. Gallai’r union leoliad newid.
Rydym yn cynllunio ein prosiectau’n sensitif er mwyn lleihau a lliniaru effaith bosibl ar yr amgylchedd lleol. Unwaith iddynt gael eu hadeiladu mae ein ffermyr solar yn gweithredu’n dawel, gyda fawr ddim effaith ar yr amgylchedd lleol na’r gymuned leol. Bydd cyfoethogi tirweddau a bioamrywiaeth yn cael eu sefydlu yn y blynyddoedd cyntaf, gan helpu i guddio’r safle o olwg y cyhoedd a asio â’r dirwedd leol. Budd gwelliannau i fioamrywiaeth ar y safle o fudd i’r amgylchedd naturiol lleol ar gyfer oes weithredol y safle a thu hwnt, gobeithio.
Ar hyn o bryd, mae’r prosiect mewn cam cynnar, ac rydym yn cynnal arolygon amgylcheddol a thechnegol er mwyn deall ac asesu’r tir. Wrth i’n cynigion ddatblygu, byddwn yn ymgysylltu â’r gymunedol leol a chynrychiolwyr lleol er mwyn sicrhau eu bod yn cael y newyddion diweddaraf. Bydd y newyddion diweddaraf yn cael eu cyhoeddi ar y dudalen we hon trwy gydol y broses ddatblygu.


Budd Cymunedol
Rydym yn credu y gall ein prosiectau greu gwerth y gall cymunedau sy’n agos at leoliad y prosiect ei rannu, trwy welliannau amgylcheddol a budd cymunedol a fydd yn gadael gwaddol cadarnhaol ar gyfer y gymuned.
Trwy gyfrwng cronfa budd cymunedol bwrpasol, byddwn yn cefnogi prosiectau a mentrau lleol sy’n:
- Cyfoethogi ansawdd bywyd.
- Creu cyfleoedd ar gyfer twf a datblygu.
- Annog ymwybyddiaeth ac effeithlonrwydd ynni
Drwy weithio gyda’r gymuned leol a rhanddeiliaid allweddol byddwn yn archwilio cyfleoedd ar gyfer rhagor o fudd trwy ranberchnogaeth.
Mae eich barn yn bwysig
Un o rannau pwysicaf datblygu cynlluniau ar gyfer gosod ynni solar yw ymgysylltu â chymunedau lleol. Gall eich barn chi ein helpu i ddylunio a chyflawni’r prosiect mewn ffordd sy’n adlewyrchu blaenoriaethau lleol, tra’n darparu ynni dibynadwy, adnewyddadwy.
Ein bwriad yw cynnal digwyddiadau ymgynghori anffurfiol yn ddiweddarach eleni. Bydd rhagor o fanylion ar gael ar y dudalen we hon yn nes at yr amser.

Cysylltwch â ni
Rydym wastad ar gael i helpu gydag unrhyw ymholiadau. Mae croeso i chi gysylltu â ni drwy e-bost neu dros y ffôn. Bydd y wefan hon yn cael ei diweddaru’n rheolaidd.
afonddaw@lightsourcebp.com 01446 502754
*Indicates required field

