GLOBAL

Solar a Storio Ynni Maen Hir

Daeth yr ymgynghoriad ar gyfer Prosiect Maen Hir i ben am hanner nos ar ddydd Gwener, 15 Tachwedd 2024. Hoffem ddiolch i bawb a gymerodd yr amser i ddarparu eu hadborth. Bydd eich mewnbwn yn cael ei adolygu’n ofalus a’i ystyried wrth i ni weithio i gwblhau ein cynigion.

Y Prosiect

Prosiect Maen Hir, prosiect ynni solar ac arbed ynni gyda gallu cynhyrchu o 360 megawat (MW) cerrynt eiledol (AC). Mae hyn yn golygu y gallai gynhyrchu digon o ynni glân i bweru dros 140,000 o gartrefi (cywerthedd) ac osgoi dros 70,000 o dunelli o CO2 bob blwyddyn.

Bydd y Prosiect yn cyflwyno buddion economaidd, cymunedol ac amgylcheddol, ac wrth wneud hynny, chwarae rhan allweddol yn Rhaglen Ynys Ynni Cyngor Sir Ynys Môn.

Byddai’r Prosiect hefyd yn cyfrannu at dargedau Llywodraeth Cymru i gyflawni Net Sero erbyn 2050 ac i gynhyrchu tua 70% o drydan o ffynonellau adnewyddadwy.

Mae’r safle Solar PV yn cynnwys tua 1,284 hectar (ha) ar draws tri darn o dir:

• Gogledd Maen Hir – yn cynnwys tir ger Rhosgoch a Bodewryd
• Canol Maen Hir – yn cynnwys tir o gwmpas ymyl ogleddol a dwyreiniol Llyn Alaw
• De Maen Hir ‘A’ a ‘B’ – yn cynnwys tir i’r gogledd-ddwyrain a de-ddwyrain o Lannerchymedd

Mae’r tir yn cynnwys caeau amaethyddol a ddefnyddir ar gyfer pori’n bennaf, gyda darn o dir llwyd o fewn Gogledd Maen Hir ger Rhosgoch, a oedd gynt yn ddepo olew.

Mae’r Prosiect hefyd yn cynnwys Prosiect Solar Cymunedol 5MWp*. Bydd yr incwm a gynhyrchir o hyn yn cael ei ddefnyddio i ariannu prosiectau sy’n uniongyrchol fuddio cymunedau lleol a’r amgylchedd, a allai gynnwys ategu seilwaith presennol a chreu mannau hamdden newydd.

Mae’r cyn-Ddepo Olew wedi’i gynnig fel y lleoliad dewisol ar gyfer y Prosiect Solar Cymunedol ac Arbed Ynni. Gallai’r Prosiect gynnwys gwelliannau seilwaith ar y safle tir llwyd a allai helpu i ddatgloi ei botensial datblygu a chefnogi cyfleoedd cyflogaeth yn y dyfodol.

Ar hyn o bryd, mae ein dyluniad yn ddangosol. Gall rhai elfennau a ddangosir ar y cynllun meistr newid yn seiliedig ar yr adborth a dderbyniwn yn ystod yr ymgynghoriad.

Bydd y prosiect yn weithredol am hyd at 60 mlynedd. Yn ystod y cyfnod gweithredol, bydd y tir o dan ac o amgylch y paneli solar yn parhau’n dir glaswelltog ac yn cael ei reoli drwy bori neu dorri er mwyn gwarchod adnoddau pridd ac ansawdd tir amaethyddol. Ar ddiwedd y cyfnod gweithredol, bydd y prosiect yn cael ei ddatgomisiynu a’r tir yn cael ei adfer.

*MWp yw’r gallu uchaf (brig) o gapasiti solar MW DC gosodedig

Lleoliad y Prosiect

Sut mae Ffermydd Solar yn Gweithio

Mae ffermydd solar yn dal golau’r haul er mwyn cynhyrchu trydan, sy’n cael ei fwydo i’r Grid Cenedlaethol drwy is-orsaf. Gellir storio ynni ychwanegol a gynhyrchir mewn batri a’i fwydo i’r rhwydwaith pan fydd galw mawr. Mae ardaloedd gweithrediadol y safle yn wedi eu hamgylchynu gyda ffens diogelwch er mwyn sicrhau diogelwch y safle a’r gymuned leol fel ei gilydd. Bydd mesurau diogelwch megis camera cylch cyfyng yn eu lle, er na fydd y safle yn cael ei oleuo yn y nos.

Mae’r paneli solar wedi eu trefnu’n rhesi a’u cysylltu gyda cheblau sy’n trosglwyddo’r ynni a gynhyrchir i wrthdroyddion.

Mae gwrthdroyddion yn hanfodol er mwyn trosi’r trydan cerrynt union (DC) a gynhyrchir gan y paneli solar i gerrynt eiledol (AC), sef y math o drydan a ddefnyddir mewn cartrefi a busnesau. Mae’r is-orsafoedd parsel 33kV yn casglu’r trydan a gynhyrchir, ac mae’r is-orsaf prosiect 132kV yn cynyddu ei foltedd cyn ei drosglwyddo i is-orsaf y Grid Cenedlaethol.

Mae storio batri yn chwarae rhan allweddol er mwyn cadw’r trydan yn ystod yr amser pan na fydd llawer o alw amdanon, a’i ryddhau pan fydd ei angen fwyaf.

Gall gwrthdroyddion gael eu lleoli o dan y paneli solar neu mewn ardaloedd dynodedig. Mae’r ardaloedd hyn, hefyd yn gartref i offer megis gêr trosglwyddo, sy’n rheoli systemau trydanol, a thrawsnewidyddion, sy’n cynyddu’r foltedd i’r lefel angenrheidiol ar gyfer trosglwyddo i’r is-orsaf.

Defnyddir ceblau tanddaearol er mwyn cysylltu gwahanol rannau o’r fferm solar a throsglwyddo trydan i is-orsaf y Grid Cenedlaethol.

Buddion y Prosiect

Mae’r Prosiect yn cynnig ystod eang o fuddion i’r gymuned leol ac economi’r rhanbarth, gan gynnwys cyfleoedd cyflogaeth, gwelliannau amgylcheddol, a manteision cymdeithasol hirdymor.

Buddion Economaidd a Chyflogaeth

Bydd y Prosiect yn creu cyfleoedd sylweddol ar gyfer creu swyddi lleol a thwf economaidd. Yn ystod y cyfnod adeiladu, disgwylir creu tua 1,320 o swyddi. Yn ystod y cyfnod gweithredol bydd y prosiect yn cefnogi tua 10-12 o swyddi llawn amser. Bydd y rolau hyn yn amrywio o swyddi arbenigol a hynod fedrus i lafur cyffredinol, gan ddarparu sbectrwm eang o gyfleoedd cyflogaeth. Yn ychwanegol, bydd yr economi’n elwa o swyddi anuniongyrchol, a gefnogir drwy’r gadwyn gyflenwi.

Drwy bartneru â sefydliadau addysgol lleol megis Grŵp Llandrillo Menai a Phrifysgol Bangor, bydd y Prosiect hefyd yn cyfrannu at ddatblygiad sgiliau yn y sector ynni adnewyddadwy, gan sicrhau manteision parhaol i’r gymuned. Ceir mwy o fanylion am y mentrau hyn yn ein Strategaeth Cyflogaeth a Sgiliau Ddrafft (PESS) sydd wedi’i chynnwys yn y deunyddiau ymgynghori.

Bydd y Prosiect hefyd yn fuddiol i weithgareddau amaethyddol lleol. Bydd yn darparu ffynhonnell incwm ychwanegol i ffermydd lleol, wrth iddynt barhau â gweithgareddau ffermio hanfodol megis pori defaid. Bydd y refeniw ychwanegol hwn yn helpu i gefnogi parhad gweithgareddau amaethyddol ar Ynys Môn, gan fanteisio ar y gymuned ffermio leol wrth gynnal cymeriad gwledig yr ardal.

Diogelwch Ynni a Gwelliannau Seilwaith

Trwy wella dibynadwyedd cyflenwad pŵer cenedlaethol, bydd Prosiect Maen Hir yn cyfrannu at annibyniaeth ynni a diogelwch rhanbarthol. Bydd hyn yn helpu i ddiogelu anghenion pŵer y rhanbarth wrth gefnogi’r trawsnewid i ffynonellau ynni adnewyddadwy.

Yn ogystal, mae’r Prosiect yn cefnogi Rhaglen Ynys Ynni Cyngor Sir Ynys Môn ac yn cyfrannu at dargedau net sero rhanbarthol a chenedlaethol.

Buddion Amgylcheddol a Bioamrywiaeth

Nod y Prosiect yw cyfoethogi’r amgylchedd lleol trwy wella bioamrywiaeth, creu cynefinoedd newydd ar gyfer bywyd gwyllt, a chynnal gweithgareddau amaethyddol fel pori da byw a phlannu blodau gwyllt. Bydd yr ymdrechion hyn yn hyrwyddo iechyd yr ecosystem leol ac yn cyfrannu at y nod ehangach o gynaliadwyedd amgylcheddol.

Bydd adfer nodweddion traddodiadol y dirwedd, megis ‘cloddiau’ (caeau wedi’u harwynebu â cherrig), yn helpu i atgyfnerthu cymeriad a diwylliant y rhanbarth, tra hefyd yn cefnogi bioamrywiaeth. Drwy integreiddio amaethyddiaeth, creu cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt, a gwella bioamrywiaeth, bydd y Prosiect yn sicrhau bod amgylchedd unigryw Môn yn cael ei gadw a’i wella ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae rhagor o fanylion ar fuddion Amgylcheddol a Bioamrywiaeth ar gael yn yr Adroddiad Gwybodaeth Amgylcheddol

Buddion Cymunedol a Chymdeithasol

Mae’r Prosiect yn darparu amrywiaeth o fuddion sylweddol i’r gymuned leol, gan gynnwys y posibilrwydd o gyflwyno prosiect solar cymunedol 5MWp. Bydd yr incwm a gynhyrchir gan y prosiect hwn yn cael ei ddyrannu i fentrau lleol a phrosiectau amgylcheddol, gan ddarparu cymorth tymor hir ar gyfer rhaglenni cymunedol.

Mae’r Prosiect hefyd yn anelu at wella adnoddau hamdden ac amwynder i’r gymuned leol ac ymwelwyr. Bydd y Prosiect yn archwilio cyfleoedd i wella hawliau tramwy cyhoeddus presennol, gan eu gwneud yn fwy hygyrch a phleserus i bawb. Gallai’r gwelliannau hyn ddarparu buddion parhaol i’r gymuned leol trwy hyrwyddo llesiant a gwella ansawdd bywyd. Mae rhagor o fanylion ar fuddion Amgylcheddol a Bioamrywiaeth ar gael yn yr Adroddiad Buddion Cydweithredol.

Y Broses Gynllunio

Mae Prosiect Maen Hir wedi’i ddosbarthu fel Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (NSIP) oherwydd ei fod wedi’i gynnig i gael gallu cynhyrchu o fwy na 350 MW.

Proses Gorchymyn Cydsyniad Datblygu (DCO)

Mae hyn yn golygu, i adeiladu Maen Hir, byddwn yn gwneud cais am Orchymyn Cydsyniad Datblygu (DCO). Mae ceisiadau DCO yn cael eu cyflwyno i’r Arolygiaeth Gynllunio (PINS) ac yn cael eu gwneud i’r Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer yr Adran Diogelwch Ynni a Net Sero (DESNZ). Bydd y cais DCO yn destun archwiliad gan awdurdod archwilio a benodir gan yr Ysgrifennydd Gwladol i wneud argymhelliad iddynt ynghylch a ddylid rhoi cydsyniad datblygu ai peidio. Mae’r penderfyniad terfynol ynghylch a ddylid rhoi cydsyniad datblygu ai peidio yn gorffwys gyda’r Ysgrifennydd Gwladol. Mae mwy o wybodaeth am y broses DCO ar gael yma.

Ymgynghoriad Cyhoeddus

Mae adborth gan y gymuned yn hanfodol i’n helpu i lunio’r Prosiect a sicrhau ei fod yn adlewyrchu anghenion a blaenoriaethau lleol. Rydym yn croesawu eich adborth ar wahanol elfennau o’r Prosiect, fel cynllun y safle, ystyriaethau amgylcheddol, a buddion i’r gymuned.

Cyn cyflwyno cais DCO, mae’n rhaid i ni gynnal ymgynghoriad statudol yn unol â Deddf Cynllunio 2008. Mae manylion am sut rydym yn ymgynghori wedi’u nodi yn ein Datganiad Ymgynghoriad Cymunedol (‘SoCC’), y gallwch ddod o hyd iddo yn yr adran dogfennau.

Yr Hyn Rydym yn Ymgynghori Arno

Yn ystod yr ymgynghoriad statudol, buom yn croesawu ac yn ystyried adborth ar bob agwedd ar y Prosiect ac yn gwahodd sylwadau ar y canlynol:

  • Yr Adroddiad Gwybodaeth Amgylcheddol Drafft (PEIR), a oedd yn manylu ar ganlyniadau ein hasesiadau amgylcheddol cychwynnol a’r mesurau lliniaru cysylltiedig.
  • Nodweddion gweithredol hirdymor arfaethedig, fel sut y gallai’r Prosiect edrych ac gael ei brofi gan drigolion cyfagos.
  • Nodweddion dros dro byr dymor arfaethedig, fel cynlluniau ar gyfer adeiladu.
  • Buddion posibl sy’n gysylltiedig â’r Prosiect, gan gynnwys cyfle ar gyfer prosiect solar cymunedol 5MW, a allai gynnwys gwelliannau i isadeiledd gwyrdd neu gyfleoedd hamdden o fewn safle’r Prosiect.

Dyddiadau Ymgynghori

Ymgynghoriad Statudol a redodd o 2 Hydref 2024 i 15 Tachwedd 2024

Camau Nesaf

Roedd adborth y gymuned yn hanfodol i’n helpu i lunio’r Prosiect a sicrhau ei fod yn adlewyrchu anghenion a blaenoriaethau lleol. Buom yn croesawu adborth ar wahanol elfennau o’r Prosiect, megis cynllun y safle, ystyriaethau amgylcheddol, a buddion cymunedol.

Gyda’r ymgynghoriad bellach wedi dod i ben, byddwn yn adolygu’r holl adborth a dderbyniwyd ynghyd â’n hasesiadau amgylcheddol a thechnegol parhaus i gwblhau cynigion Prosiect Maen Hir. Byddwn wedyn yn cyflwyno ein cais am ganiatâd datblygu i’r Arolygiaeth Gynllunio (PINS), gan gynnwys Adroddiad Ymgynghori yn crynhoi’r adborth a sut mae wedi siapio ein cynigion terfynol.

Unwaith y derbynnir ein cais, gallwch gofrestru gyda PINS i aros yn gyfredol â’i gynnydd a chymryd rhan mewn cyfleoedd pellach i roi mewnbwn. Ar ôl i’r archwiliad ddod i ben, bydd PINS yn gwneud argymhelliad i’r Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer yr Adran Diogelwch Ynni a Net Sero (DESNZ), a fydd yn penderfynu a ddylid rhoi caniatâd terfynol ar gyfer Prosiect Maen Hir.

Low shot through flowers of two people on a solar farm pointing at the panels

Cyfleoedd Pellach i Rannu Eich Safbwyntiau

Wedi i’n cais gael ei gyflwyno a’i dderbyn, bydd gennych gyfle i gofrestru eich diddordeb yn uniongyrchol gyda’r Arolygiaeth Gynllunio. Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn eich diweddaru ynghylch cynnydd y cais yn ystod y cam archwilio ac yn eich hysbysu o unrhyw gyfleoedd pellach i gyfrannu at y broses.

Llyfrgell Dogfennau

Cofrestru i Gael yr Wybodaeth Ddiweddaraf

I ddarllen ein cylchlythyr cymunedol diweddaraf a gyhoeddwyd ym mis Medi 2024, cliciwch yma.

Rydym wedi ymrwymo o hyd i ymgysylltu’n agored ac yn dryloyw â’r gymuned drwy gydol y broses hon.

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am Brosiect Maen Hir, gallwch gofrestru i gael diweddariadau am y prosiect yn uniongyrchol i’ch blwch derbyn. Llenwch y ffurflen isod i gofrestru gyda ni a chael yr wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw newyddion a datblygiadau sy’n ymwneud â’r cynigion, gan gynnwys pan fydd rhagor o wybodaeth am y datblygiad arfaethedig a’r digwyddiadau cymunedol sydd ar y gweill yn dod ar gael.

Yn y cyfamser, rydym bob amser wrth law i gynorthwyo gydag unrhyw un o’ch ymholiadau ynghylch Prosiect Maen Hir, ac rydym wedi sefydlu llinellau cyfathrebu wedi’u neilltuo ar gyfer y prosiect er mwyn i chi allu cysylltu â ni, Llun-Gwener rhwng 9am a 5pm:

  • E-bost: maenhir@lightsourcebp.com
  • Rhadffôn: Cymraeg: 08081 756663 / Saesneg: 08081 756375
  • Rhadbost (am ddim; does dim angen stamp): FREEPOST MAEN HIR PROJECT

Manylion Cyswllt

Post di-dâl: FREEPOST MAEN HIR PROJECT (dim angen stamp) Gwe (Cymraeg): lightsourcebp.com/maenhir-cymraeg Gwe (Saesneg): lightsourcebp.com/maenhir-english

maenhir@lightsourcebp.com Rhadffôn: Cymraeg: 08081 756663 / Saesneg: 08081 756375

*Indicates required field

Solar Môn

Er nad yw’n weithredol ar hyn o bryd, mae’r dudalen we bwrpasol ar gyfer Fferm Solar Môn ar gael i’r cyhoedd drwy’r ddolen hon.

I weld y wybodaeth ddiweddaraf am y cynigion, arhoswch ar y dudalen we hon i weld Disgrifiad o Brosiect Maen Hir a’r Cwestiynau Cyffredin a nodir uchod.