GLOBAL

Prosiect Storio Solar ac Ynni Plas Power

Y PROSIECT MEWN RHIFAU

57MWac

o solar a storio (Megawat eiledol)

Pweru 22,700

o gartrefi bob blwyddyn (cyfwerth)

136

hectar o dir

Arbed 15,800

tunnell o allyriadau carbon

Tynnu 10,800

o geir oddi ar y ffordd y flwyddyn (cyfwerth)

Diweddariad – Chwefror 2025

Ym mis Mehefin 2024, cyflwynodd Lightsource bp gais Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol (DNS) ar gyfer Prosiect Solar a Storio Ynni Plas Power i Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW).

Mae’r Prosiect arfaethedig wedi’i ddosbarthu fel Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol Mae hyn yn golygu y bydd Lightsource bp yn gwneud cais i Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW), a fydd yn gwneud argymhelliad i Weinidogion Cymru ynghylch rhoi caniatâd cynllunio ai peidio.

Dilyswyd y cais gan PEDW ym mis Chwefror 2025 ac mae bellach ar gael i’w weld ar wefan Llywodraeth Cymru – porth ‘Cynllunio gwaith achos’ trwy chwilio’r cyfeirnod ‘DNS/3253253 – Fferm Solar Stad Plas Power’.

Ers ein hymgynghoriad statudol yng ngwanwyn 2024, fe wnaethom ystyried eich adborth a gwneud y newidiadau a ganlyn:

  • Plannu coed a gwrychoedd ychwanegol i’r gogledd o’r safle i ddarparu lefel uwch o sgrîn i eiddo ar Tan Llan;
  • Mwy o glustogfeydd ar gyfer coetiroedd hynafol a choed hynafol gerllaw ac o fewn y safle; a

Rydym yn ddiolchgar am yr ymgysylltiad a’r adborth a gawsom ar ein cynigion dros y tair blynedd ddiwethaf. Mae’r cymunedau o amgylch y safle wedi chwarae rhan bwysig wrth lunio ein prosiect.

Byddwn yn parhau i ymgysylltu â’r gymuned ynghylch ein cronfa budd cymunedol pe byddai caniatâd yn cael ei roi, ac unwaith y bydd y prosiect yn weithredol.

Statws presennol

Dewis safle

Asesiadau rhagarweiniol, cynllunio'r safle ac ymgysylltu cymunedol

Cais cynllunio

Rhyddhau amodau cynllunio

Adeiladu

Gweithrediad

Datgomisiynu

Rhagor o wybodaeth

Am y gyfres lawn o ddogfennau ymgynghori am Prosiect Storio Solar ac Ynni Plas Power, gweler yr adran Dogfennau ymgynghori isod.

Map rhyngweithiol o’r safle

Rydym ar hyn o bryd yn gweithio ar gyfieithu’r isod a bydd fersiwn Gymraeg ar gael yn fuan.

Buddsoddi mewn cymunedau lleol

Cefnogi cymunedau lleol

Rydym yn cefnogi’r cymunedau lleol o amgylch ein prosiectau solar a’n nod yw creu effaith gadarnhaol ar gymdeithas a’r amgylchedd sy’n mynd y tu hwnt i gynhyrchu ynni adnewyddadwy.

Buddion i’r Gymuned

Os bydd y cais cynnlunio DNS yn cael ei gymeradwyo, byddwn yn darparu cronfa o £1,000 fesul MW capasiti fydd yn cael ei ddosbarthu rhwng cynghorau cymuned Coed-poeth ac Esclus a bydd £400,000+ ychwanegol yn cael ei fuddsoddi mewn prosiectau a chynlluniau lleol er budd y gymuned.

Yn dilyn adborth o ddigwyddiadau ymgynghori blaenorol, rydym yn archwilio’r cyfleoedd posibl a ganlyn:

  • cefnogi cynlluniau gwella i Lwybr Dyffryn Clywedog, ei asedau treftadaeth ac amgylchedd naturiol (gan gynnwys Coed Plas Power)
  • sefydlu cronfa budd cymunedol i ddarparu cyllid grant ar gyfer prosiectau cymunedol ac amgylcheddol
  • cefnogi clybiau chwaraeon lleol.

Os oes gennych unrhyw syniadau eraill, rhowch wybod i ni.

Cofrestrwch i gael diweddariadau

Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i ymgysylltu agored a thryloyw â’r gymuned.

Os hoffech gael eich cynnwys yn y rhestr bostio ar gyfer diweddariadau ,

Mae ein cyfathrebiadau prosiect ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 5pm:

 

 

Dogfennau ymgynghori