GLOBAL

Prosiect Solar Plas Power

Key numbers

57MWac

(Megawat eiledol)

Pweru 22,726

o gartrefi bob blwyddyn (cyfwerth)

~140

hectar o dir

Arbed 15,821

tunnell o allyriadau carbon

Tynnu 10,881

o geir oddi ar y ffordd y flwyddyn (cyfwerth)

Ymgynghoriad Cyhoeddus yn Fyw

Cofrestrwch ar gyfer gweminar  sydd i ddod – ddydd Mercher, 20 Mehefin 2023, 18:00

Dewch i’n digwyddiadau galw heibio

  • Dydd Mawrth, 27 Mehefin 2023, o 12pm i 5pm yng Nghanolfan Gymunedol Plas Pentwyn, Coedpoeth
  • Dydd Mawrth, 27 Mehefin 2023, o 6pm i 8pm yng Nghlwb Chwaraeon a Chymdeithasol Brymbo, Brymbo
  • Dydd Mercher, 28 Mehefin 2023, o o 09am i 1pm yng Nghlwb Chwaraeon a Chymdeithasol Brymbo, Brymbo
Statws presennol

Dewis safle

Asesiadau rhagarweiniol, cynllunio'r safle ac ymgysylltu cymunedol

Cais cynllunio

Rhyddhau amodau cynllunio

Adeiladu

Gweithrediad

Datgomisiynu

Gwybodaeth am Brosiect Solar Plas Power

Bydd Prosiect Solar Plas Power yn darparu ffynhonnell o ynni adnewyddadwy, gan helpu i leihau allyriadau carbon a chyfrannu at nodau sero net Cymru, a chyfrannu at uchelgais y DU o gynnydd pum gwaith yn yr ynni solar a gynhyrchir, hyd at 70GW erbyn 2035, fel y nodir yn Strategaeth Diogelwch Ynni a Sero Net y DU.

Amcangyfrifir y gallai’r prosiect solar gynhyrchu hyd at 57MWac o drydan, sydd gyfwerth â darparu digon o bŵer i ddiwallu anghenion trydan blynyddol oddeutu 27,726 o gartrefi, gan arbed 15,821 o dunelli o garbon.

Mae’r safle, sydd oddeutu140 hectar, wedi’i leoli yn union i’r dwyrain o Goedpoeth a 3.4km i’r gorllewin o Wrecsam. Yr aneddiadau agosaf yw Coedpoeth, Brychdyn Newydd, Wrecsam, Rhostyllen a Talwrn. Hen bwll glo brig yw’r safle, ac ar hyn o bryd mae’n laswelltir a ddefnyddir yn bennaf ar gyfer pori.

Mae’r safle’n cynnwys nifer o gaeau amaethyddol, a ddefnyddir yn bennaf ar gyfer tir pori, wedi’u rhwymo gan gyfuniad o goetir aeddfed, coed, gwrychoedd, ffensys, traciau amaethyddol a ffyrdd.

Mae ein cynnig yn cynnwys cynlluniau i greu glaswelltir dôl y gall ddefaid bori’n ysgafn arno, felly bydd y tir o dan y prosiect solar yn cynnal diben amaethyddol. Ochr yn ochr â hyn mae cyfle hefyd i wella cynefinoedd presennol a chreu cynefinoedd newydd er budd bywyd gwyllt lleol, a sicrhau enillion net o ran bioamrywiaeth.

Yn dilyn yr ymgysylltu cychwynnol yn 2021, rydym wedi diweddaru ein cynigion ac rydym nawr yn rhannu’r cynlluniau diweddaraf â’r gymuned.

Rydym wedi ymrwymo i gefnogi’r cymunedau lleol o amgylch ein prosiectau solar, i greu effaith gadarnhaol ar gymdeithas a’r amgylchedd sy’n mynd y tu hwnt i gynhyrchu ynni adnewyddadwy.

Mae croeso i chi gymryd cipolwg ar gylchlythyr Plas Power isod.

Ymgynghoriad

Mae Lightsource bp wedi ymrwymo i weithio’n agos gyda chymunedau lleol mewn perthynas â Phrosiect Solar Plas Power i sicrhau bod y prosiect o fudd i’r gymuned leol – nid yn unig drwy gynhyrchu ynni diogel, glân a fforddiadwy , ond drwy wella’r ecosystem a’r economi leol hefyd. Rydym yn adeiladu ein ffermydd solar gyda’r bwriad o gryfhau economïau gwledig, hyrwyddo addysg solar, meithrin cynaladwyedd amgylcheddol, a chreu partneriaethau.

Ymgynghoriad Cymunedol ar gynigion sy’n dod i’r amlwg

Rydym nawr yn cynnal cam nesaf yr ymgysylltu i roi cyfle i bobl leol ddysgu rhagor a thrafod y cynigion diweddaraf gyda thîm y prosiect.

Y dyddiad cau ar gyfer sylwadau yw dydd Llun, 17 Gorffennaf 2023.

Gweminar

Rydym yn cynnal gweminar rhithwir i roi trosolwg o’r cynigion ac i ymateb i’ch ymholiadau ddydd Mercher, 20 Mehefin 2023, rhwng 6pm a 7pm. .

Cliciwch yma i gadw’ch lle.

Gadewch eich manylion cyswllt fel y gallwn ni e-bostio’r ddolen atoch y diwrnod cyn y gweminar.

 

Digwyddiadau galw heibio

I ddysgu rhagor a thrafod y cynigion gydag aelodau o dîm y prosiect, dewch i’n digwyddiadau galw heibio:

A

  • Dydd Mawrth, 27 Mehefin 2023, o 12pm i 5pm ym Mhlas Pentwyn, Ffordd y Castell, Coedpoeth, LL11 3NU
  • Dydd Mawrth, 27 Mehefin 2023 o 6pm i 8pm yng Nghlwb Chwaraeon a Chymdeithasol Brymbo, Brymbo

 

  • Dydd Mercher, 28 Mehefin 2023, o 09am i 1pm yng Nghlwb Chwaraeon a Chymdeithasol Brymbo, Brymbo

Arddangosfa Ar-lein

Fel arall, gallwch ymweld â’n harddangosfa ar-lein (o ddydd Mawrth, 27 Mehefin 2023 ymlaen).

Ond megis dechrau mae cam dylunio y prosiect, a bydd y cynigion manwl yn sail i’r ymgynghoriad statudol yn ddiweddarach yn 2023.

 

 

Dweud eich dweud

Rydym yn eich gwahodd i roi adborth ar ein cynigion drafft.

Ffurflen adborth: Rhowch adborth i ni drwy lenwi’ch ffurflen adborth erbyn dydd Llun 17 Gorffennaf 2023.

E-bost: E-bostiwch eich sylwadau i plaspowersolar@lightsourcebp.com

Post:    Freepost GRASSHOPPER CONSULT (nid oes angen stamp na chyfeiriad arall)

Ffoniwch:  Rydyn ni yma i wrando ar eich barn. Gallwch siarad ag aelod o’r tîm drwy ffonio 01978 800675

 

Rhowch eich manylion cyswllt os hoffech gael ymateb.

Bydd unrhyw wybodaeth bersonol y byddwch yn ei chynnwys yn y ffurflen hon yn cael ei thrin a’i defnyddio gan y derbynwyr canlynol (neu bydd ar gael iddynt) i gofnodi, dadansoddi ac adrodd ar yr adborth a gawn:

  • Lightsource bp a’i bartneriaid
  • Ymgynghorwyr sy’n gweithio ar y prosiect hwn
  • Ein cynghorwyr cyfreithiol
  • Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW), a fydd yn ystyried ein cais am ganiatâd i adeiladu Prosiect Solar Plas Power – bydd unrhyw fanylion a gyhoeddir yn rhan o’r broses hon yn ddienw)
  • Gweinidogion Cymru, a fydd yn penderfynu ar y cais

Ni fydd eich manylion cyswllt yn cael eu rhestru ar y cais cynllunio.

Am ragor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio’ch data personol, ewch i: www.grasshoppercomms.co.uk/privacy-policy. Os hoffech i ni ddileu eich data, gallwch gysylltu â ni unrhyw bryd drwy e-bostio plaspowersolar@lightsourcebp.com neu ffonio 01978800675.